top of page

Telerau Apwyntiad

 

Pwrpas yr telerau hyn yw gosod allan manylion y berthynas broffesiynnol rhwng y Cleient a Huw Meredydd Owen ar gyfer y comisiwn a ddisgrifir.

 

Caiff y gwasanaethau a ddisgrifir sydd yn berthnasol i'r prosiect penodol eu cynnwys mewn dogfen arall. Mae rhain yn amodau cyffredinol, y mae'r ddogfen yn cyfeirio atynt.

 

dyletswyddau

Mae gwahanol elfennau’r gwasanaeth sydd yn gwireddu’r gofynion wedi eu disgrifio yn y ddogfen perthnasol. Mae’n bosib na fydd y disgfrifiad a roir ar y cychwyn yn parhau i fod yn union gywir fel mae’r prosiect yn datblygu, ac os ydyn nhw’n amrywio i’r graddau eu bod yn gamarweiniol, fe drafodir y mater er mwyn cytuno ar ddisgrifiad newydd.

 

ffioedd

Mae ffigwr y ffi wedi ei seilio, fel arfer, ar yr amser y disgwylir ei dreulio ar y cam hwnnw, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Codir am waith ychwanegol, yn ôl y gyfradd a nodir.

 

ymgynghorwyr

Darperir rhai gwasanaethau hefyd gan Ymgynghorwyr eraill, ond heb eu cynnwys yn fy ffioedd i. Byddant yn bilio’r Cleient yn uniongyrchol. Mae’r gwasanaethau yn ddibynnol ar amgylchiadau’r prosiect, ac yn cael eu disgrifio ganddynt yn uniongyrchol.

 

Gall 'ymgynghorwyr' gynnwys:

  1. tirfesurwyr

  2. peiriannwyr archiwliad safle

  3. maintfesurwyr

  4. peiriannwyr strwythurol

  5. peiriannwyr mecanyddol a thrydannol

  6. aseswyr collaiant gwres (SAP)

  7. asseswyr CCC/BREEAM

 

costau

Cynhwysir costau cyffredinol y swyddfa yn y ffi (gohebiaeth, teleffon, amser gweinyddol, dyletswyddau swyddfa) ond codir am y canlynol yn ôl y gyfradd gyfredol:

  1. costau teithio ychwanegol (£0.50/milltir)

  2. tocynnau tren / bws (ar gost)

  3. costau cynhaliaeth (pan fo angen, i'w gytuno)

  4. argraffu safon uchel neu fformat mawr

  5. mapiau OS safonnol

 

TAW

Ar hyn o bryd, ni chodir TAW.

 

CDM

Mae Iechyd a Diogelwch ar unhryw brosiect yn gyfrifoldeb ar y Cleient. Dylech sicrhau eich bod yn cydymffurfio yn llawn a gofynion y Construction (Design and Management) Regulations 2015 (gweler y llyfryn sydd ar gael yma www.hse.gov.uk/pubns/indg411.htm). Dylech nodi fod diffiniad ‘cleient domestig’ yn ddibynnol ar statws y ty mewn golwg.

 

Nid yw’r cytundeb hwn yn cynnwys ymgymryd a dyletswyddau’r cleient o dan y Rheoliadau ar gyfer gwaith bach domestig.

 

Amodau Cyffredinol 

 

1 Awdurdod y Pensaer 

Huw Meredydd Owen yn unig fydd yn cynrychioli'r Cleient yn yr holl faterion y'i penodir i'w cyflawni, ac a awgrymir yn y penodiad hwnnw.  Yng nghyflawniad y gwasanaethau, amodau, dyletswyddau a chyfrifoldebau fe fydd  yn defnyddio y gofal a'r sgiliau rhesymol disgwyliedig. 

 

2 Ymgynghorwyr 

Enwebir ymgynghorwyr arbennigol drwy gytundeb, a lle bynnag posib fe'i cyflogir yn uniongyrchol gan y Cleient, a fydd yn dal yr ymgynghorwr hwnnw yn gyfrifol am eu gwaith a'i gymhwystra. Bydd gan Huw Meredydd Owen yr awdurdod i lywio'r gwasanaethau a gynigir gan unrhyw ymgynghorwr(wyr) a’u hymgorffori yn y cynllun cyffredinol, waeth pa drefniadau cyflogaeth.

 

3 Hawlfraint 

Cedwir pob hawlfraint, oni gytunir fel arall, ar bob cynllun, darlun a dogfen a baratoir i'r Cleient, ac mewn unrhyw waith a gwblheir ohonynt, oni gytunir yn wahanol, yn eiddo i Huw Meredydd Owen.

 

4 Trosglwyddiant 

Ni chaiff Huw Meredydd Owen na'r Cleient drosglwyddo'r gwaith yn gyfan nag yn rhannol heb ganiatad ysgrifennedig y llall.

 

5 Terfynu'r Apwyntiad 

Rhaid i Huw Meredydd Owen neu'r Cleient roi rhybudd ysgrifenedig o 7 diwrnod i'r llall, os am derfynu'r apwyntiad. Paratoir cyfri ffioedd i fyny at 7 diwrnod wedi derbyn y llythyr.

 

6 Cyhoeddi a chyhoeddusrwydd

Cytuna'r Cleient drwy hyn i ganiatau cyhoeddi ffotograffau, darluniau a disgrifiadau o'r gwaith a'i gyd-destun - yn y wasg yn gyffredinol; ar radio teledu a ffilm; mewn arddangosfeydd; trwy ddarlithio a chyflwyniadau uniongyrchol; a thrwy ddulliau electronig, gan gynnwys ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol, oni cytunir yn wahanol

 

7 Newidiadau i'r ffioedd 

Oni chytunir i'r gwrthwyneb fe ddefnyddir ffigwr y cyfri terfynol i weithio'r ffi terfynol, ar  ffioedd a weithir ar ganran.

 

Ar waith a ddiddymwyd cyn dechrau adeiladu, defnyddir yr amcangyfri o'r gyllideb i weithio'r cyfri ffioedd terfynnol.

 

Os yw'r Cleient yn cynyddu, lleihau neu yn newid natur y gwaith a gytunwyd arno'n wreiddiol, cedwir yr hawl i newid y ffi i adlewyrchu'r newid.

 

8 Cyfrifon Ffioedd 

Oni gytunir i'r gwrthwyneb, danfonir cyfrifon ffioedd yn fisol am y gwaith a gwblhawyd yn ystod y mis hwnnw.

 

Rhaid talu o fewn 15 diwrnod o gyflwyniad y cyfri ffi, ac fe ychwanegir llog cyfartal a 3% dros y Gyfradd Banc gyfredol am ffioedd aheb eu talu am fis neu ragor. Bydd methiant i dalu o fewn mis yn golygu diddymu’r cytundeb hwn heb rydudd pellach.

 

9 Costau ychwanegol

Os y bydd i gyfnod y gwaith ymestyn tu hwnt i'r cyfnod a ragwelwyd yn y cytundeb, am ba bynnag reswm, cedwir yr hawl i ail asesu'r amser a dreulir ar faterion sydd yn benodol yn ymwneud a'r cyfnod adeiladu, ac i godi am yr amser a dreulir yn ychwanegol at yr hyn gytunwyd yn wreiddiol. 

 

Gall cyfran o'r gost ychwanegol hyn gael ei adhawlio o dan y cymal iawndal o'r gytundeb os y gellir priodoli achos yr oedi i'r ymgymerwyr. 

 

10 Cyfrifon heb eu talu

Gyrrir dwy nodyn atgoffa, ac oni cheir ymateb cedwir yr hawl wedi hynny i fynd i gyfraith heb rybudd pellach.

 

Mae dyletswydd ar y Cleient i ddod gysylltiad rhagblaen os ydyw/ydynt yn wynebu trafferthion i dalu'r cyfri a dderbyniwyd.

 

Gellir cytuno ar ffyrdd erall o dalu'r cyfri yn ol yr amgylchiadau.

 

12 Anghydfod 

Mewn achos o anghytundeb cyfeirir y mater i sylw canolwr i'w enwebu ar gais unrhyw barti gan lywydd Sefydliad Siartreedig y Canolwr, neu gan arall i'w gytuno.

 

13 Cyfrifoldeb 

Ni chaiff unrhyw achos na gweithrediad cyfreithiol yn erbyn y Cwmni am dorri'r cytundeb hwn ei gychwyn wedi diwedd cyfnod o 6 mlynedd o ddyddiad cwblhad ymarferol y gwaith neu o ddyddiad cwblhad y dyletswyddau hynny a gytunwyd iddynt fel rhan o'r amodau, os yw hynny'n gynt. 

 

14 Gwasanaeth brys 

Mae'r gwasanaeth a ddisgrifir yn cymryd i ystyriaeth fod y gwaith yn cael ei ymgymryd ag ef o fewn trefniadau arferol y Practis, sef ein bod yn ymgymryd a phob gwaith yn ei drefn. Os bydd cleient yn dymuno cael cwblhau gwaith mewn cyfnod arbennig sydd yn golygu na all y drefn hwnnw barhau yn foddhaol (h.y. yn gofyn i'r Cwmni roi pwysigrwydd uwch i'r gwaith hwnnw nag i waith arall ar y gweill), fe geidw'r Practis yr hawl i godi ffi ychwanegol am Wasanaeth Brys.

 

15 Caniatad Cynllunio 

Tra'n gwneud pob ymdrech i sicrhau caniatad cynllunio NID yw'n bosib gwarantu caniatad mewn unrhyw fodd gan mai penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio lleol, neu'r Arolygiaeth Cynullnio yn unig yw hynny

 

16 Cytuno'r Amodau 

Pan mae’r  Cleient yn cyfarwyddo cychwyn y gwaith a ddisgfrifir, cymerir y canlynol yn ganiataol:

  1. fod y Cleient yn cytuno â’r Amodau hyn yn eu cyfanrwydd

  2. fod gan y Cleient gyllid digonol i dalu’r cyfri ffioedd pan gaiff hwnnw ei ddanfon

 

Os hoffech chi, cewch arwyddo dau gopi a dychwelyd un i ni.

Conditions of Appointment

 

The purpose of these conditions is to set out the details of the professional relationship between the Client and Huw Meredydd Owen for the commission described

 

The services that relate to the specific project are set out in another document. These are general conditions to which that document makes reference. 

 

 

duties

The different elements of the service that will be undertaken in order to realise the brief are described in the relevant document. The descriptions given at the outset may not remain strictly accurate as the project develops, and if they vary to such a degree that they become misleading the matter will be raised in order to agree a new description.

 

fees

Fees are a figure usually based on an estimation of the time to be taken for that stage according to the circumstances. Additional work will be charged at the quoted rate. 

 

 

consultants

Services are often also provided by other Consultants, but are not included in my fees. The consultants will charge the Client directly. The services required depend on the circumstances of each commission and will be detailed by them directly.

 

'Consultants' may include:

  1. land surveyors

  2. site investigation engineers

  3. quantity surveyors

  4. structural engineers

  5. mechanical and electrical engineers

  6. heatloss assessor (SBEM/SAP)

  7. CSH/BREEAM assessor

 

expenses

General office costs are included in the fee (correspondence, telephones, administrative time, general offcie duties) but the following are charged for at the prevailing rate (which may change):

  1. additional travelling (£0.50 / mile)

  2. train or bus tickets (at cost)

  3. subsistence (when required, by prior agreement)

  4. large format or high resolution printing

  5. standard OS plans

 

VAT

Currently not VAT registered.

 

CDM

Health and Safety matters on any project are ultimately the responsibility of the Client. You should ensure that you comply fully with the requirements of the Construction (Design and Management) Regulations 2015 (as per the downloadable booklet found at www.hse.gov.uk/pubns/indg411.htm). Please note that the definition of a ‘domestic client’ depends upon the status of the house in question.

 

This agreement does not cover the undertaking the client’s duties under the Regulations for small domestic work.

 

General Conditions

 

1 Architect's Authority 

Huw Meredydd Owen shall exclusively represent the Client in all matters set out or implied in the appointment. In the performance of the services, conditions, duties and responsibilities he will use the reasonable skill and care that might be expected.

 

2 Consultants 

Specialist consultants may be nominated, by agreement, and wherever possible employed by the Client, who shall hold the consultant responsible for the competence, and general  performance of the work entrusted to them. Huw Meredydd Owen will have the authority to co-ordinate and integrate into the overall design the services  provided by any consultant, however employed.

 

3 Copyright

in all documents and drawings prepared by Huw Meredydd Owen and in any works executed from those documents and drawings shall, unless otherwise agreed, remain the property of Huw Meredydd Owen.

 

4 Assignment  

Neither Huw Meredydd Owen nor his Client may assign the whole or any part of his duties without the other's written consent.

 

5 Termination of Appointment 

Huw Meredydd Owen or the Client must give 7 days written notice to the other of their intention to terminate the appointment. Fee accounts will be prepared  for all work up to 7 days after receipt of letter.

 

6 Publishing and publicity 

The Client hereby agrees to allow publishing of photographs, drawings and descriptions of the work and its context - in the press generally; on radio, television and film; in exhibitions; in lectures and direct presentations; and through electronic means, including websites and social media unless otherwise agreed.

 

7 Fee adjustment

Unless agreed differently, the final account figure will be used to calculate the final fee account, on percentage fees.

 

On work abandoned prior to commencement of construction, the budget figure will  be used to calculate the final fee account.

 

If the Client increases, decreases or changes the nature of the work agreed at the outset, the right to change the fee charged to reflect that change is reserved. 

 

8 Fee Accounts 

Unless otherwise agreed, fee accounts will be issued  monthly for work completed during that month.

 

Payment to be made within 15 days of the presentation of fee account, and interest to the equivalent of 3% over current Bank Rate will be charged for fees delayed for more than one month. Failure to pay within a month will mean the revocation of this  agreement without further notice.

 

9 Additional charges

Should the works extend beyond the period  quoted  in the contract, for whatever reason, we expressly reserve the right to reassess the time spent on matters relating to the construction period and to charge for any additional time spent over and above that which were due for the  agreed contract duration. 

 

A proportion of the excess charge may be recovered as liquidated damages if the cause of the delay can be attributed to the contractor.

 

10 Non-payment of fee accounts

Two reminders will be sent, and unless there is a response the Architects reserve the right to find a remedy at law without further notice.

 

The Client is under a duty to get in touch forthwith should he/she/they face difficulties in settling the account received.

 

Alternative means of payment can be agreed depending on the circumstances.

 

 

12 Disputes

Any difference or dispute arising shall be referred to an arbitrator to be nominated at the request of either party by the President of the Chartered Institute of Arbitrators, or any other as agreed.

 

13 Liability

No action or proceedings for any breach of this agreement shall be commenced against the Practice after the expriy of 6 years from the date of practical completion of the works or trom the date of completion of our duties under this agreement if that is sooner. 

 

14 Expedited Service

The service as described presumes that the work is undertaken within the usual working arrangements of the Practice, namely that all work undertaken is dealt with in its turn. If the Client wishes work to be undertaken in a specified period that prevents that arrangement from continuing satisfactorily (i.e. requesting the Practice to give the work a higher priority than other work in progress), the Practice retains the right to charge an additional fee for an Expedited Service.

 

15 Planning Permission

Whilst making every effort to obtain planning permission, the Practice emphatically does NOT guarantee planning permission in any respect, since this is solely  the decision of the Local Planning Authority or the Planning Inspectorate.

 

16 Approval of Conditions. 

When the Client instructs for the work to commence on the project, as described, the following will be assumed:

  1. that the Client agrees to these Conditions in their entirety 

  2. that the Client has/ have sufficient funds for the settlement of the fee account when submitted

 

If you wish you may sign two copies and return one to us.

diwygwyd a diweddarwyd  170207

Für die Arbeit in Deutschland und in der übrigen EU sind spezifische Arbeitsbedingungen vorgesehen

© 2014 - 2023 huw meredydd owen / Wix.com

bottom of page